Amdanom ni
|
|
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Partneriaeth Arfordir a Môr Cymru yn Abertawe ar 20 Mawrth 2002. A hithau wedi’i lansio gydag ymglymiad a chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r Bartneriaeth yn adeiladu ar waith hen Fforwm Arfordir Cymru. Nod y Bartneriaeth yw:
"darparu cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar faterion datblygu cynaliadwy sy’n dylanwadu ar arfordir a moroedd Cymru yn ogystal â hwyluso cyfnewid gwybodaeth a lledaenu arferion da".
Mae gan y Bartneriaeth aelodau sy'n cynrychioli 28 sefydliad o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Er mwyn sicrhau bod gan holl fuddiannau Cymru gyfle i ddatgan eu barn am waith y Bartneriaeth, lluniwyd rhestr o'r rhai sydd wedi dangos diddordeb. Os hoffech weld eich sefydliad ar y rhestr, cysylltwch â'r Swyddog Prosiect - mae yna wybodaeth ar sut i wneud hyn yn Cysylltu â'r Partneriaeth.
|
 |